                          TRWYDDED GYHOEDDUS           
                          GYFFREDINOL GNU              
                          Cyfieithiad answyddogol      
                          o Drwydded Gyhoeddus         
                          Gyffredinol (TGG) GNU i’r    
                          Gymraeg yw hwn. Ni           
                          chyhoeddwyd mohono gan y     
                          Free Software Foundation,    
                          ac nid yw’n mynegi’n         
                          gyfreithiol termau           
                          dosbarthu meddalwedd sy’n    
                          defnyddio TGG GNU--testun    
                          Saesneg gwreiddiol TGG GNU   
                          yn unig a wna hynny. Serch   
                          hynny, gobeithiwn y bydd y   
                          cyfieithiad yma’n gymorth i  
                          siaradwyr Cymraeg ddeall a   
                          gwneud gwell defnydd o TGG   
                          GNU.                         
                                                       
                          This is an unofficial        
                          translation of the GNU       
                          General Public License into  
                          Welsh. It was not published  
                          by the Free Software         
                          Foundation, and does not     
                          legally state the            
                          distribution terms for       
                          software that uses the GNU   
                          GPL--only the original       
                          English text of the GNU GPL  
                          does that. However, we hope  
                          that this translation will   
                          help Welsh speakers          
                          understand the GNU GPL       
                          better.                      
                                                       
                          Fersiwn 2, Mehefin 1991      
                                                       
                          Hawlfraint (C) 1989, 1991    
                          Free Software Foundation,    
                          Inc. 59 Temple Place, Suite  
                          330, Boston, MA 02111-1307   
                          USA                          
                                                       
                          Mae gan bawb yr hawl i       
                          gopïo a dosbarthu copïau     
                          gair am air o’r drwydded     
                          hon, ond nid oes hawl ei     
                          newid.                       
                          Rhagair                      
                                                       
                          Mae trwyddedau ar gyfer y    
                          rhan fwyaf o feddalwedd      
                          wedi’u cynllunio i’ch        
                          amddifadu o’ch rhyddid i’w   
                          rhannu a’i newid. I’r        
                          gwrthwyneb mae Trwydded      
                          Gyhoeddus Gyffredinol GNU    
                          wedi’i bwriadu i warantu     
                          eich rhyddid i rannu a       
                          newid meddalwedd rhydd--i    
                          wneud yn siwr fod pob        
                          meddalwedd yn rhydd ar       
                          gyfer ei holl ddefnyddwyr.   
                          Mae’r Drwydded Gyhoeddus     
                          Gyffredinol yn berthnasol    
                          i’r rhan fwyaf o feddalwedd  
                          y Free Software Foundation   
                          ac i unrhyw raglen mae ei    
                          hawduron yn ymrwymo i’w      
                          defnyddio. (Mae peth         
                          meddalwedd Free Software     
                          Foundation arall yn cael ei  
                          gynnwys o fewn y Drwydded    
                          Gyhoeddus Gyffredinol        
                          Llyfrgelloedd yn lle         
                          hynny.) Mae modd ei gosod    
                          ar gyfer eich rhaglenni chi  
                          hefyd.                       
                                                       
                          Pan ydym yn sôn am           
                          feddalwedd rhydd (free       
                          software), rydym yn sôn am   
                          ryddid nid pris. Mae ein     
                          Trwyddedau Cyhoeddus         
                          Cyffredinol wedi’u           
                          cynllunio i wneud yn siwr    
                          fod gennych y rhyddid i      
                          ddosbarthu copïau o          
                          feddalwedd rhydd (a chodi    
                          am y gwasanaeth hwn os       
                          dymunwch), eich bod yn       
                          derbyn y côd ffynhonnell     
                          neu bod modd i chi ei gael   
                          os dymunwch, bod modd i chi  
                          newid y feddalwedd neu       
                          ddefnyddio darnau ohoni ar   
                          gyfer rhaglenni rhydd        
                          newydd; a’ch bod yn gwybod   
                          bod bod modd i chi wneud y   
                          pethau hyn.                  
                                                       
                          I ddiogleu eich hawliau,     
                          mae angen i ni osod          
                          cyfyngiadau sy’n atal        
                          unrhyw un rhag eich          
                          amddifadu o’r hawliau hyn    
                          neu ofyn i chi ildio’r       
                          hawliau. Mae’r               
                          cyfyngiadau’n trosi i rhai   
                          cyfrifoldebau penodol i chi  
                          os ydych yn dosbarthu        
                          copïau o’r feddalwedd, neu   
                          yn ei newid.                 
                                                       
                          Er engrhaifft, os byddwch    
                          yn dosbarthu copïau o        
                          raglen, p’un ai am ddim neu  
                          am bris, rhaid i chi rhoi    
                          i’r derbynwyr yr holl        
                          hawliau sydd gennych chi.    
                          Rhaid i chi hefyd wneud yn   
                          siwr eu bod hwy hefyd yn     
                          derbyn neu yn medru cael y   
                          côd ffynhonnell. A rhaid i   
                          chi ddangos yr amodau hyn    
                          iddyn nhw wybod eu hawliau.  
                                                       
                          Rydym yn diogelu eich        
                          hawliau gyda dau gam: (1)    
                          hawlfreintio’r feddalwedd,   
                          a (2) cynnig y drwydded hon  
                          sy’n rhoi caniatâd i chi     
                          gopïo, dosbarthu a/neu       
                          addasu’r feddalwedd.         
                                                       
                          Hefyd, ar gyfer diogelwch    
                          pob awdur a’n diogelwch ni,  
                          rydym eisiau gwneud yn siwr  
                          fod pawb yn deall nad oes    
                          gwarant ar gyfer y           
                          feddalwedd rydd hon. Os      
                          yw’r feddalwedd yn cael ei   
                          haddasu gan rywun a’i        
                          phasio ymlaen, rydym am i’w  
                          derbynwyr wybod nad y        
                          gwreiddiol sydd ganddynt,    
                          fel nad yw problemau sydd    
                          wedi’u cyflwyno gan eraill   
                          yn adlewyrchu ar enw da’r    
                          awduron gwreiddiol.          
                                                       
                          Yn olaf, mae unrhyw rhaglen  
                          rydd o dan fygythiad         
                          parhaus patentau             
                          meddalwedd. Rydym yn         
                          awyddus i osgoi’r perygl     
                          fod ailddosbarthwyr rhaglen  
                          rydd yn cymryd trwydded      
                          patent, gan wneud y rhaglen  
                          yn berchnogol. I rwystro     
                          hyn, rydym wedi’i gwneud     
                          hi’n glir y dylai unrhyw     
                          batent gael ei drwyddedu ar  
                          gyfer defnydd rhydd pawb     
                          neu beidio gael ei           
                          drwyddedu o gwbl.            
                                                       
                          Isod ceir yr union amodau    
                          ar gyfer copïo, dosbarthu    
                          ac addasu.                   
                          TRWYDDED GYHOEDDUS           
                          GYFFREDINOL GNU              
                          TELERAU AC AMODAU AR GYFER   
                          COPÏO, DOSBARTHU AC ADDASU   
                                                       
                          0. Mae’r Drwydded hon yn     
                          berthnasol i unrhyw raglen   
                          neu waith arall sy’n         
                          cynnwys hysbysiad wedi’i     
                          osod gan y daliwr            
                          hawlfraint sy’n nodi bod     
                          modd ei ddosbarthu o dan     
                          amodau’r Drwydded Gyhoeddus  
                          Gyffredinol hon. Mae’r       
                          “Rhaglen” , isod, yn         
                          cyfeirio at unrhyw raglen    
                          neu waith, ac mae “gwaith    
                          yn seiliedig ar y Rhaglen”   
                          yn golygu un ai y Rhaglen    
                          neu unrhyw waith             
                          deilliannol o dan gyfraith   
                          hawlfraint: hynny yw,        
                          gwaith yn cynnwys y rhaglen  
                          neu ran ohoni, un ai air am  
                          air neu gyda newidiadau      
                          a/neu gyfieithiad i iaith    
                          arall. (O hyn ymlaen, bydd   
                          cyfieithu yn cael ei         
                          gynnwys heb gyfyngiad o      
                          fewn y term “addasu” .       
                          Cyfeirir at bob daliwr       
                          trwydded fel “chi” .         
                                                       
                          Nid yw gweithgareddau ar     
                          wahân i gopïo, dosbarthu ac  
                          addasu yn cael eu cynnwys    
                          yn y Drwydded hon; maen nhw  
                          tu allan iddi. Nid oes       
                          cyfyngiad ar y weithred o    
                          redeg y Rhaglen, ac mae      
                          allbwn y Rhaglen yn          
                          gynwysedig dim ond os yw     
                          cynnwys yr allbwn yn         
                          ffurfio gwaith sy’n          
                          seiliedig ar y Rhaglen (yn   
                          annibynnol o fod wedi cael   
                          ei wneud o redeg y           
                          Rhaglen). Mae p’un ai yw     
                          hyn yn wir yn dibynnu ar     
                          beth mae’r Rhaglen yn ei     
                          wneud.                       
                                                       
                          1. Mae hawl i chi gopïo a    
                          dosbarthu copïau gair am     
                          air o’r côd ffynhonnell fel  
                          i chi ei dderbyn, ar unrhyw  
                          gyfrwng, ar yr amod eich     
                          bod yn cyhoeddi yn eich      
                          copi yn amlwg ac yn addas    
                          hysbysiad hawlfraint a       
                          gwadiad gwarant; yn cadw     
                          pob hysbysiad sy’n cyfeirio  
                          at y Drwydded hon ac i       
                          absenoldeb unrhyw warant     
                          gyda’i gilydd yn gyfan; a    
                          rhoi i dderbynwyr eraill y   
                          Rhaglen gopi o’r Drwydded    
                          hon gyda’r Rhaglen.          
                                                       
                          Mae modd i chi godi tâl am   
                          y weithred gorfforol o       
                          drosglwyddo copi, ac mae     
                          modd i chi, yn ôl eich       
                          dewis, gynnig diogelwch      
                          gwarant yn gyfnewid am dâl.  
                                                       
                          2. Mae modd i chi newid      
                          eich copi neu gopïau o’r     
                          rhaglen neu unrhyw rhan      
                          ohoni, gan felly greu        
                          gwaith yn seiliedig ar y     
                          Rhaglen, a chopïo a          
                          dosbarthu yr addasiadau      
                          neu’r gwaith o dan amodau    
                          Adran 1 uchod, ar yr amod    
                          eich bod hefyd yn bodloni    
                          pob un o’r amodau hyn:       
                                                       
                          a) Rhaid i chi achosi i’r    
                          ffeiliau sydd wedi’u         
                          haddasu gario hysbysiadau    
                          amlwg yn datgan eich bod     
                          wedi newid y ffeiliau a      
                          dyddiad unrhyw newid.        
                                                       
                          b) Rhaid i chi achosi i      
                          unrhyw waith rydych yn ei    
                          ddosbarthu neu ei gyhoeddi,  
                          sydd yn gyfangwbl neu yn     
                          rhannol yn deillio o’r       
                          Rhalgen neu unrhyw ran       
                          ohoni, gael ei thrwyddedu    
                          fel cyfanwaith heb unrhyw    
                          gost i bob trydydd parti     
                          dan delerau’r Drwydded hon.  
                                                       
                          c) Os yw’r rhaglen sydd      
                          wedi’i haddasu fel arfer yn  
                          darllen gorchmynion yn       
                          rhyngweithiol pan gaiff ei   
                          rhedeg, rhaid i chi achosi   
                          iddi, pan fydd yn cychwyn    
                          rhedeg ar gyfer defnydd      
                          rhyngweithiol o’r fath yn y  
                          ffordd fwyaf cyffredin,      
                          argraffu neu arddangos       
                          datganiad yn cynnwys         
                          hysbysiad hawlfraint addas   
                          a hysbysiad nad oes yna      
                          warant (neu fel arall, yn    
                          dweud eich bod chi yn rhoi   
                          gwarant) ac y gall           
                          defnyddwyr ailddosbarthu’r   
                          rhaglen dan yr amodau hyn,   
                          ac yn dweud wrth y           
                          defnyddiwr sut i edrych ar   
                          gopi o’r Drwydded hon.       
                          (Eithriad: os yw’r Rhaglen   
                          ei hun yn rhyngweithiol ond  
                          nad yw fel arfer yn          
                          argraffu datganiad o’r       
                          fath, nid oes raid i’ch      
                          gwaith sy’n seiliedig ar y   
                          Rhaglen argraffu             
                          datganiad.) Mae’r gofynion   
                          hyn wedi’u gosod ar y        
                          gwaith sydd wedi’i addasu    
                          fel cyfanwaith. Os ceir      
                          rhannau y mae modd eu        
                          hadnabod o’r gwaith hwnnw    
                          sydd heb ddeillio o’r        
                          Rhaglen, a bod modd yn       
                          rhesymol eu hystyried fel    
                          gweithiau annibynnol ac ar   
                          wahân ynddynt eu hunain,     
                          yna nid yw’r Drwydded hon,   
                          a’i thelerau, yn berthnasol  
                          i’r adrannau hynny pan       
                          fyddwch yn eu dosbarthu fel  
                          gweithiau ar wahân. Ond pan  
                          fyddwch yn dosbarthu’r un    
                          rhannau fel rhan o           
                          gyfanwaith sy’n waith        
                          seiliedig ar y Rhaglen,      
                          rhaid i ddosbarthiad y       
                          cyfanwaith fod ar delerau’r  
                          Drwydded hon, y mae ei       
                          chaniatâd i drwyddedigion    
                          eraill yn estyn i’r          
                          cyfanwaith i gyd, ac felly   
                          i bob un rhan ohoni heb      
                          wneud cyfrif o bwy wnaeth    
                          ei ysgrifennu.               
                                                       
                          Felly, nid bwriad yr adran   
                          hon yw hawlio hawliau na     
                          herio eich hawliau i waith   
                          sydd wedi’i ysgrifennu yn    
                          gyfangwbl gennych chi; yn    
                          hytrach, y bwriad yw         
                          gweithredu’r hawl i reoli    
                          dosbarthiad gweithiau        
                          deilliannol neu gyfunol      
                          sy’n seiliedig ar y          
                          Rhaglen.                     
                                                       
                          Yn ychwanegol, nid yw        
                          cydgrynhoi gwaith arall nad  
                          yw wedi’i seilio ar y        
                          Rhaglen gyda’r Rhaglen (neu  
                          gyda gwaith sydd wedi’i      
                          seilio ar y Rhalgen) ar      
                          gyfrol o gyfrwng storio neu  
                          ddosbarthu yn dod â’r        
                          gwaith arall o fewn cwmpas   
                          y Drwydded hon.              
                                                       
                          3. Gallwch gopïo a           
                          dosbarthu’r Rhaglen (neu     
                          waith wedi’i seilio arni,    
                          dan Adran 2) mewn côd        
                          gwrthrych neu ffurf          
                          weithredadwy dan delerau     
                          Adrannau 1 a 2 uchod ond i   
                          chi hefyd wneud un o’r       
                          canlynol:                    
                                                       
                          a) Rhoi gyda hi y côd        
                          ffynhonnell darllenadwy i    
                          beiriant cyfatebol cyflawn,  
                          sydd yn gorfod cael ei       
                          ddosbarthu dan delerau       
                          Adrannau 1 a 2 uchod ar      
                          gyfrwng sydd yn gyffredin    
                          yn cael ei ddefnyddio ar     
                          gyfer ymgyfnewid             
                          meddalwedd; neu,             
                                                       
                          b) Rhoi gyda hi gynnig       
                          ysgrifenedig, sy’n ddilys    
                          am o leiaf dair blynedd, i   
                          roi i unrhyw drydydd parti,  
                          am dâl sydd ddim mwy na’ch   
                          cost am y weithred           
                          gorfforol o ddosbarthu côd,  
                          i’w dosbarthu dan delerau    
                          Adrannau 1 a 2 uchod ar      
                          gyfrwng sydd fel arfer yn    
                          cael ei ddefnyddio ar gyfer  
                          ymgyfnewid meddalwedd; neu,  
                                                       
                          c) Rhoi gyda hi y wybodaeth  
                          y gwnaethoch chi ei derbyn   
                          ynghylch y cynnig i          
                          ddosbarthu côd ffynhonnell   
                          cyfatebol. (Dim ond ar       
                          gyfer dosbarthiad            
                          anfasnachol y mae’r dewis    
                          arall hwn yn cael ei         
                          ganiatâu a dim ond os        
                          gwnaethoch chi dderbyn y     
                          rhaglen mewn côd gwrthrych   
                          neu ffurf weithredadwy gyda  
                          chynnig o’r fath, yn unol    
                          ag Isadran b uchod.)         
                                                       
                          Mae’r côd ffynhonnell ar     
                          gyfer gwaith yn golygu       
                          ffurf ddewisol y gwaith ar   
                          gyfer ei addasu. Ar gyfer    
                          gwaith gweithredadwy, ystyr  
                          côd ffynhonnell cyflawn      
                          yw’r cyfan o’r côd           
                          ffynhonnell ar gyfer pob     
                          modiwl y mae’n eu cynnwys,   
                          a hefyd unrhyw ffeiliau      
                          diffinio rhyngwyneb          
                          cysylltiedig, a hefyd y      
                          sgriptiau a ddefnyddiwyd i   
                          reoli creu a gosod y gwaith  
                          gweithredadwy. Fodd bynnag,  
                          fel eithriad arbennig, nid   
                          oes raid i’r côd             
                          ffynhonnell sy’n cael ei     
                          ddosbarthu gynnwys unrhyw    
                          beth sy’n cael ei            
                          ddosbarthu fel arfer (naill  
                          ai ar ffurf ffynhonnell neu  
                          ddeuaidd) gyda phrif         
                          gydrannau (crynhoydd,        
                          cnewyllyn, ac ati) y system  
                          weithredu y mae’r gwaith     
                          gweithredadwy yn rhedeg      
                          arno, on bai fod y gydran    
                          honno ei hun yn dod gyda’r   
                          gwaith gweithredadwy.        
                                                       
                          Os yw’r gwaith               
                          gweithredadwy neu gôd        
                          gwrthrych yn cael ei         
                          ddosbarthu drwy gynnig       
                          mynediad at gopi o le        
                          dynodedig, yna mae cynnig    
                          mynediad cyfatebol i         
                          gopïo’r côd ffynhonnell o’r  
                          un lle yn cyfrif fel         
                          dosbarthu’r côd              
                          ffynhonnell, er nad yw       
                          trydydd partïon yn cael eu   
                          gorfodi i gopïo’r            
                          ffynhonnell ynghyd â’r côd   
                          gwrthrych.                   
                                                       
                          4. Nid oes hawl i chi        
                          gopïo, addasu, isdrwyddedu   
                          na dosbarthu’r Rhaglen ac    
                          eithrio fel sy’n cael ei     
                          ddarparu mewn cymaint        
                          eiriau dan y Drwydded hon.   
                          Mae unrhyw ymgais fel arall  
                          i gopïo, addasu,             
                          isdrwyddedu neu              
                          ddosbarthu’r Rhaglen yn      
                          ddi-rym, a bydd yn           
                          awtomatig yn terfynu eich    
                          hawliau dan y Drwydded hon.  
                          Fodd bynnag, ni fydd         
                          partïon sydd wedi derbyn     
                          copïau, neu hawliau, oddi    
                          wrthych dan y Drwydded hon   
                          yn cael eu trwyddedau        
                          wedi’u terfynu cyn belled â  
                          bo’r partïon hynny yn        
                          parhau i gydymffurfio’n      
                          llawn.                       
                                                       
                          5. Nid oes raid i chi        
                          dderbyn y Drwydded hon, gan  
                          nad ydych wedi’i llofnodi.   
                          Fodd bynnag, nid oes unrhyw  
                          beth arall yn rhoi hawl i    
                          chi addasu neu ddosbarthu’r  
                          Rhaglen na’r gweithiau sy’n  
                          deillio ohoni. Mae’r         
                          gweithredoedd hyn yn cael    
                          eu gwahardd gan y ddeddf os  
                          nad ydych yn derbyn y        
                          Drwydded hon. Felly, drwy    
                          addasu neu ddosbarthu’r      
                          Rhaglen (neu unrhyw waith    
                          sy’n seiliedig ar y          
                          Rhaglen), rydych yn dangos   
                          eich bod yn derbyn y         
                          Drwydded hon i wneud hynny,  
                          a’i holl delerau ac amodau   
                          ar gyfer copïo, dosbarthu    
                          neu addasu’r Rhaglen neu     
                          weithiau sy’n seiliedig      
                          arni.                        
                                                       
                          6. Bob tro rydych yn         
                          ailddosbarthu’r Rhaglen      
                          (neu unrhyw waith sy’n       
                          seiliedig ar y Rhaglen),     
                          mae’r derbyniwr yn           
                          awtomatig yn derbyn          
                          trwydded oddi wrth y         
                          trwyddedwr gwreiddiol i      
                          gopïo, dosbarthu neu         
                          addasu’r Rhaglen yn unol     
                          â’r telerau ac amodau        
                          hynny. Nid oes hawl gennych  
                          osod unrhyw gyfyngiadau      
                          pellach ar weithrediad       
                          derbynwyr o’r hawliau sy’n   
                          cael ei rhoi ynddi. Nid      
                          ydych yn gyfrifol am orfodi  
                          trydydd partïon i            
                          gydymffurfio â’r Drwydded    
                          hon.                         
                                                       
                          7. 7. Os yw amodau yn cael   
                          eu gosod arnoch, o           
                          ganlyniad i ddyfarniad llys  
                          neu honiad o dorri patent    
                          neu am unrhyw reswm arall    
                          (heb fod yn gyfyngedig i     
                          faterion patent), p’un ai    
                          gan orchymyn llys, cytundeb  
                          neu rywbeth arall, sy’n      
                          croesddweud amodau’r         
                          Drwydded hon, nid ydynt yn   
                          eich esgusodi rhag amodau’r  
                          Drwydded hon. Os na allwch   
                          ddosbarthu fel ag i fodloni  
                          ar yr un pryd eich           
                          rhwymedigaethau dan y        
                          Drwydded hon ac unrhyw       
                          rwymedigaethau perthnasol    
                          eraill, yna o ganlyniad i    
                          hyn ni chewch ddosbarthu’r   
                          Rhaglen o gwbl. Er           
                          enghraifft, pe na bai        
                          trwydded patent yn caniatâu  
                          i’r Rhaglen gael ei          
                          hailddosbarthu yn rhydd      
                          rhag breindal gan bawb sy’n  
                          derbyn copïau yn             
                          uniongyrchol neu’n           
                          anuniongyrchol drwyddoch     
                          chi, yna’r unig ffordd y     
                          gallech ei bodloni hi a’r    
                          Drwydded hon fyddai i        
                          ymatal yn llwyr rhag         
                          dosbarthu’r Rhaglen.         
                                                       
                          Os yw unrhyw ran o’r adran   
                          hon yn cael ei hystyried i   
                          fod yn annilys neu’n         
                          amhosibl ei gweithredu dan   
                          unrhyw amgylchiad arbennig,  
                          bwriedir gweddill yr adran   
                          i fod yn berthnasol a        
                          bwriedir yr adran yn gyfan   
                          i fod yn berhnasol dan       
                          amgylchiadau eraill.         
                                                       
                          Nid pwrpas yr adran hon yw   
                          gwneud i chi dorri unrhyw    
                          hawlio patentau neu hawliau  
                          eiddo eraill neu ymladd      
                          dilysrwydd unrhyw hawlio     
                          o’r fath; unig bwrpas yr     
                          adran hon yw diogelu         
                          cyfanrwydd y system          
                          ddosbarthu meddalwedd        
                          rhydd, sy’n cael ei          
                          weithredu gan arferion       
                          trwyddedu cyhoeddus. Mae     
                          llawer o bobl wedi gwneud    
                          cyfraniadau hael i’r dewis   
                          eang o feddalwedd sy’n cael  
                          ei dosbarthu drwy’r system   
                          honno ac sy’n dibynnu ar     
                          gysondeb gweithrediad y      
                          system honno; mater i’r      
                          awdur/rhoddwr yw penderfynu  
                          a yw ef/hi yn barod i        
                          ddosbarthu meddalwedd drwy   
                          unrhyw systemau eraill ac    
                          ni all y sawl sy’n           
                          drwyddedig orfodi’r dewis    
                          hwnnw.                       
                                                       
                          Bwriad yr adran hon yw ei    
                          gwneud hi’n hollol eglur     
                          beth y credir ei fod yn      
                          ganlyniad gweddill y         
                          Drwydded hon. 8. Os yw       
                          dosbarthiad a/neu ddefnydd   
                          y Rhaglen hon yn cael ei     
                          gyfyngu mewn rhai gwledydd   
                          naill ai gan batentau neu    
                          ryngwynebau wedi’u           
                          hawlfreintio, gall deiliad   
                          yr hawlfraint gwreiddiol     
                          sy’n gosod y Rhaglen dan y   
                          Drwydded hon ychwanegu       
                          cyfyngiad dosbarthu          
                          daearyddol yn cau allan y    
                          gwledydd hynny, fel bod      
                          dosbarthu yn cael ei         
                          ganiatâu yn unig o fewn neu  
                          rhwng gwledydd nad ydynt     
                          wedi cael eu cau allan fel   
                          hyn. Mewn achos o’r fath,    
                          mae’r Drwydded hon yn        
                          ymgorffori’r cyfyngiad fel   
                          petai wedi’i ysgrifennu yng  
                          nghorff y Drwydded hon.      
                                                       
                          9. Efallai y bydd y Free     
                          Software Foundation yn       
                          cyhoeddi fersiynau wedi’u    
                          hadolygu a/neu rhai newydd   
                          o’r Drwydded Gyhoeddus       
                          Gyffredinol o dro i dro.     
                          Bydd fersiynau newydd o’r    
                          fath yn debyg o ran ysbryd   
                          i’r fersiwn presennol, ond   
                          efallai y byddant yn         
                          wahanol yn y manylion er     
                          mwyn delio gyda phroblemau   
                          neu bryderon newydd.         
                          Rhoddir rhif fersiwn         
                          gwahanol i bob fersiwn. Os   
                          yw’r Rhaglen yn pennu rhif   
                          fersiwn o’r Drwydded hon     
                          sy’n berthnasol iddi ac      
                          “unrhyw fersiwn              
                          diweddarach” , mae gennych   
                          y dewis o ddilyn telerau ac  
                          amodau naill ai’r fersiwn    
                          hwnnw neu unrhyw fersiwn     
                          diweddarach a gyhoeddir gan  
                          y Free Software Foundation.  
                          Os nad yw’r Rhaglen yn       
                          pennu rhif fersiwn o’r       
                          Drwydded hon, gallwch        
                          ddewis unrhyw fersiwn a      
                          gyhoeddwyd erioed gan y      
                          Free Software Foundation.    
                                                       
                          10. Os dymunwch ymgorffori   
                          rhannau o’r Rhaglen i mewn   
                          i raglenni rhydd eraill y    
                          mae amodau eu dosbarthu yn   
                          wahanol, ysgrifennwch at yr  
                          awdur i ofyn caniatâd. Ar    
                          gyfer meddalwedd sydd        
                          wedi’i hawlfreintio gan y    
                          Free Software Foundation,    
                          ysgrifennwch at y Free       
                          Software Foundation; rydym   
                          ni weithiau yn gwneud        
                          eithriadau ar gyfer hyn.     
                          Bydd ein penderfyniad yn     
                          cael ei arwain gan y ddau    
                          nod o ddiogelu statws rhydd  
                          pob un o ddeilliannau ein    
                          meddalwedd rhydd ac o hybu   
                          rhannu ac ailddefnyddio      
                          meddalwedd yn gyffredinol.   
                          DIM GWARANT                  
                                                       
                          11. GAN FOD Y RHAGLEN YN     
                          CAEL EI THRWYDDEDU YN RHAD   
                          AC AM DDIM, NID OES GWARANT  
                          AR GYFER Y RHAGLEN, I’R      
                          GRADDAU Y MAE’R GYFRAITH     
                          BERTHNASOL YN CANIATÂU. AC   
                          EITHRIO LLE CEIR DATGANIAD   
                          YSGRIFENEDIG FEL ARALL MAE   
                          DALWYR YR HAWLFRAINT A/NEU   
                          BARTÏON ERAILL YN DARPARU’R  
                          RHAGLEN “FEL Y MAE” HEB      
                          WARANT O UNRHYW FATH, NAILL  
                          AI WEDI’I FYNEGI NEU         
                          YMHLYG, GAN GYNNWYS, OND     
                          HEB FOD YN GYFYNGEDIG I      
                          WARANTAU OBLYGEDIG YNGHYLCH  
                          MARSIANDWYAETH A FFITRWYDD   
                          AT BWRPAS ARBENNIG. MAE’R    
                          HOLL RISG YNGHYLCH ANSAWDD   
                          A PHERFFORMIAD Y RHAGLEN YN  
                          PERTHYN I CHI. PETAI’R       
                          RHAGLEN YN PROFI I FOD YN    
                          DDIFFYGIOL, CHI SY’N         
                          YSGWYDDO COST YR HOLL        
                          WASANAETHU, TRWSIO NEU       
                          GYWIRO ANGENRHEIDIOL.        
                                                       
                          12. NI FYDD DALWYR YR        
                          HAWLFRAINT, NEU UNRHYW       
                          BARTI ARALL A FYDD EFALLAI   
                          YN ADDASU A/NEU              
                          AILDDOSBARTHU’R RHAGLEN FEL  
                          SY’N CAEL EI GANIATÂU        
                          UCHOD, DAN UNRYW             
                          AMGYLCHIADAU ONI BAI BOD     
                          HYNNY’N ORFODOL DAN          
                          GYFRAITH BERTHNASOL NEU      
                          WEDI’I GYTUNO YN             
                          YSGRIFENEDIG, YN ATEBOL I    
                          CHI AM IAWNDAL, GAN GYNNWYS  
                          UNRHYW IAWNDAL CYFFREDINOL,  
                          ARBENNIG, ATODOL NEU         
                          GANLYNIADOL YN CODI O        
                          DDEFNYDDIO NEU ANALLU I      
                          DDEFNYDDIO’R RHAGLEN (GAN    
                          GYNNWYS OND HEB FOD YN       
                          GYFYNGEDIG I GOLLI DATA NEU  
                          DDATA YN CAEL EI WNEUD YN    
                          WALLUS NEU GOLLEDION A       
                          DDIODDEFIR GENNYCH CHI NEU   
                          DRYDYDD PARTÏON NEU          
                          FETHIANT Y RHAGLEN I         
                          WEITHREDU GYDAG UNRHYW       
                          RAGLENNI ERAILL), HYD YN     
                          OED OS YW DALIWR O’R FATH    
                          NEU BARTI ARALL WEDI CAEL    
                          EI GYNGHORI O BOSIBILRWYDD   
                          IAWNDAL O’R FATH.            
                                                       
                          DIWEDD Y TELERAU A’R AMODAU  
                          Sut i Gymhwyso’r Telerau     
                          hyn i’ch Rhaglenni Newydd    
                                                       
                          Os ydych yn datblygu         
                          rhaglen newydd, a’ch bod am  
                          iddi fod mor ddefnyddiol ag  
                          y mae modd i’r cyhoedd, y    
                          ffordd orau i gyflawni hyn   
                          yw i’w gwneud yn feddalwedd  
                          rhydd y gall pawb ei         
                          hailddosbarthu a’i newid     
                          dan y telerau hyn.           
                                                       
                          I wneud hyn, atodwch yr      
                          hysbysiadau canlynol i’r     
                          rhaglen. Y ffordd fwyaf      
                          diogel yw eu hatodi i        
                          ddechrau pob ffeil           
                          ffynhonnell i gyfleu’r       
                          ffaith fod gwarant wedi’i    
                          chau allan yn y ffordd       
                          fwyaf effeithiol; a dylai    
                          pob ffeil gael o leiaf un    
                          llinell “hawlfraint” a       
                          phwyntydd at y man lle ceir  
                          yr hysbysiad llawn.          
                                                       
                          <un llinell i roi enw’r      
                          rhaglen a syniad byr o’r     
                          hyn mae’n gwneud.>           
                          Hawlfraint (C) <blwyddyn>    
                          <enw’r awdur>                
                                                       
                          Mae’r rhaglen hon yn         
                          feddalwedd rhydd; gallwch    
                          ei hailddosbarthu a/neu ei   
                          haddasu dan delerau          
                          Trwydded Gyhoeddus           
                          Gyffredinol GNU fel y’i      
                          cyhoeddwyd gan y Free        
                          Software Foundation; naill   
                          ai fersiwn 2 y Drwydded,     
                          neu (yn ôl eich dewis)       
                          unrhyw fersiwn diweddarach.  
                                                       
                          Mae’r rhaglen hon yn cael    
                          ei dosbarthu yn y gobaith y  
                          bydd yn ddefnyddiol, ond     
                          HEB UNRHYW WARANT; heb hyd   
                          yn oed y warant oblygedig o  
                          FARSIANDWYAETH neu           
                          FFITRWYDD AT BWRPAS          
                          ARBENNIG. Gweler Trwydded    
                          Gyhoeddus Gyffredinol GNU    
                          am ragor o fanylion.         
                                                       
                          Dylech fod wedi derbyn copi  
                          o Drwydded Gyhoeddus         
                          Gyffredinol GNU ynghyd â’r   
                          rhaglen hon; os na,          
                          ysgrifennwch at y            
                                                       
                          Free Software Foundation,    
                          Inc., 59 Temple Place,       
                          Suite 330, Boston MA         
                          02111-1307 USAHefyd dylech   
                          gynnwys gwybodaeth am sut i  
                          gysylltu â chi drwy gyfrwng  
                          y post electronig a phapur.  
                                                       
                          Os yw’r rhaglen yn           
                          rhyngweithiol, gwnewch iddi  
                          allbynnu hysbysiad byr fel   
                          hyn pan fydd yn dechrau      
                          mewn modd rhyngweithiol:     
                                                       
                          Gnomovision fersiwn 69,      
                          Hawlfraint (C) blwyddyn      
                          enw’r awdur. Mae             
                          Gnomovision yn dod HEB       
                          UNRHYW WARANT O GWBL; am     
                          fanylion teipiwch            
                          ‘dangoswch w’. Meddalwedd    
                          rhydd yw hwn, ac mae croeso  
                          i chi ei ailddosbarthu dan   
                          amodau arbennig; teipiwch    
                          ‘dangoswch c’ am fanylion.   
                                                       
                          Dylai’r gorchmynion          
                          damcaniaethol ‘dangoswch w’  
                          a ‘dangoswch c’ ddangos y    
                          rhannau priodol o’r          
                          Drwydded Gyhoeddus           
                          Gyffredinol. Wrth gwrs,      
                          gall y gorchmynion rhydych   
                          chi’n eu defnyddio fod       
                          wedi’u galw’n rhywbeth       
                          arall ar wahân i ‘dangoswch  
                          w’ a ‘dangoswch c’; gallent  
                          hyd yn oed fod yn cliciadau  
                          llygoden neu eitemau ar      
                          ddewislen--beth bynnag sy’n  
                          addas i’ch rhaglen.          
                                                       
                          Dylech hefyd gael eich       
                          cyflogwr (os ydych chi’n     
                          gweithio fel rhaglennydd)    
                          neu eich ysgol, os oes un,   
                          i lofnodi “gwadiad           
                          hawlfraint” ar gyfer y       
                          rhaglen, os oes angen. Dyma  
                          sampl; newidiwch yr enwau:   
                                                       
                          Mae Yoyodyne, Inc. drwy hyn  
                          yn gwadu pob buddiant        
                          hawlfraint yn y rhaglen      
                          ‘Gnomovision’ (sy’n mwytho   
                          crynhowyr) a ysgrifennwyd    
                          gan James Hacker.            
                          <llofnod Ty Coon>, 1 Ebrill  
                          1989                         
                          Ty Coon, Llywydd Llygredd    
                                                       
                          Nid yw’r Drwydded Gyhoeddus  
                          Gyffredinol hon yn caniatâu  
                          i’ch rhaglen gael ei         
                          hymgorffori mewn rhaglenni   
                          perchnogol. Os mai           
                          llyfrgell isreolwaith yw     
                          eich rhaglen, efallai y      
                          byddwch yn ystyried ei bod   
                          hi’n fwy defnyddiol          
                          cysylltu cymwyseddau         
                          perchnogol gyda’r            
                          llyfrgell. Os mai dyma’r     
                          hyn rydych am ei wneud,      
                          defnyddiwch Drwydded         
                          Gyhoeddus Gyfredinol         
                          Llyfrgelloedd GNU yn lle’r   
                          Drwydded hon.                
                                                       
                          --                           
                                                       
                          Cyfieithiad gan Rhoslyn      
                          Prys, meddal.org.uk          
                                                       
                          Cyfieithu ychwanegol gan     
                          Maredudd ap Rheinallt        
                                                       
                          GPL yn Saesneg               
                                                       
                          Tudalen meddalwedd rhydd     
